Croeso i wefan Ysgol Llanbedrgoch
Hoffwn estyn croeso cynnes i’ch plentyn i Ysgol Llanbedrgoch.
Credwn mai partneriaeth yw addysg, rhyngom ni'r staff a’r Llywodraethwyr, a chwithau yn y cartref. Trwy gydweithio a chydweithredu hyderwn y bydd eich plentyn yn hapus yma ac y bydd yn datblygu yn addysgol a chymdeithasol.
Bwriad y wefan yma yw eich galluogi i ddod i adnabod bywyd a gwaith yr ysgol a’r ffordd y gallwch chi gefnogi’r gwaith gyda’ch plentyn. Mae’r wefan yn cynnwys llawer o faterion sydd o bwys i gynorthwyo trefniadaeth yr ysgol. Bydd rhoi sylw iddynt yn gymorth i chi a’ch plentyn ymgartrefu’n fuan.
Nodwn y gall rhai manylion newid rhwng y dyddiad cyhoeddi a chychwyn y flwyddyn addysgol.
Am unrhyw wybodaeth bellach neu eglurhad, cysylltwch â’r ysgol.